Mae eglwys Dduw trwy'r ddae'r a'r nef yn un

1,2,4,5,6;  1,(2,5),7;  1,3,4;  1,7,(8,(9));  1,7,8,10.
(Undeb yr eglwys)
Mae eglwys Dduw,
    trwy'r ddae'r a'r nef yn un,
Y meirw a'r byw,
    a'u cydsain yn gytun;
  "Teilwng yw'r Oen,"
      medd seintiau sy'n y nef,
  "Teilwng yw'r Oen,"
      yw'n llafar ninnau a'n llef.

Crist yw ein gwledd,
    ein hedd, a'n cyfiawnhâd,
Ffordd fywiol, rwydd,
    i'n dwyn i ŵydd
          ei Dad;
  Ei arogl Ef
      sy'n llenwi'r nef yn llawn,
  Pereiddio mae
      weddïau ffiaidd iawn.

Ei fywyd glân, ei chwys,
    a'i riddfan roes,
A'i angeu llawn,
    dâl cyflawn ar y groes:
  Daw ffrwyth ei loes,
      a grym eiriolaeth gref,
  A'r eiddil gwan
      yn gadarn gydag Ef.

Brawd yw Efe
    i'r llwythog ar y llawr;
Dôf ar Ei bwys
    i fyny o'r cystudd mawr:
  Ni thrig yn ôl un ewin,
      er mor wàn,
  O'r anial dir
      fe'u mỳnir yn y màn.

O Basan bell
    mae'n cyrchu ambell un
Yn ol i'w dŷ,
    y teulu hardd, cytun:
  O ddyfnder môr
      daw rhagor eto'n rhydd,
  Y Bugail mwyn
      a'u dwg i oleu'r dydd.

Rhyfeddu'r wyf,
    a mawr ryfeddod yw,
Fy ngharu erioed,
    y gwaela' o ddynol ryw,
  Cael yn Ei dŷ,
      o fewn Ei furiau le,
  Ac enw gwell,
      nag enwir is y ne'.

Darfydded sôn,
    am bob ymryson mwy,
Partiol farn,
    a rhagfarn 'lawr a hwy;
  Doed ysbryd hedd,
      tangnefedd yn eu lle,
  A chariad pur,
      o'r cariad sy yn y ne'.

Gwna fi fel pren
    planedig, O fy Nuw,
Yn îr ar lan,
    afonydd dyfroedd byw;
  Yn gwreiddio ar led,
      a'i ddeil heb wywo mwy,
  Yn ffrwytho dan,
      gawodydd ddwyfol glwy.

Cenadon hedd,
    mewn efengylaidd iaith,
Sy'n galw i'r wledd,
    dros fôr yr India faith;
  Caiff Hotentots,
      coroniaid dua'u lliw,
  Farbaraidd lu,
      eu dwyn i deulu Duw.

Doed teulu'r nef,
    ar fôr o wydr clir,
Sy'n sefyll ger ei fron
    mewn gwisgoedd pur;
  Doed plant y llawr a
      phlant Paradwys fry
  I roi ynghyd y clod
      i'r Iesu cu.
1: cyf. Mr John Thomas, Manafon, Sir Drefaldwyn -1771-
    Trysorfa Auraidd i Blant Duw 1771
  (o waith anad. Isaac Watts 1674-1748)
priodolwyd hefyd i   |   attributed also to
    John Thomas 1730-1803

2: Casgliad o Hymnau (Calfinaidd) 1841/1859
3-4,6: Grawn-Sypiau Canaan 1805
5: Edward Jones 1761-1836
7: Ann Griffiths 1776-1805
  neu/or Edward Jones 1761-1836
8-9: Ann Griffiths 1776-1805
10: Hymnau Hen a Newydd 1868

Tonau [10.10.10.10]:
Bont-newydd (Ieuan Gwyllt 1822-77)
Clod (alaw Gymreig)
Navarre (Sallwyr Genefa 1551)
Pax Dei (J B Dykes 1823-76)
Penitentia (E Dearle 1806-91)
Toulon (<1875)
Truro (<1875)
Upton (<1829)

gwelir:
  Brawd yw efe i'r llwythog ar y llawr
  Darfydded sôn am bob ymryson mwy
  Darfydded sôn am haeddiant dyn a'i rym
  Doed mawr a bach o îs a gwaelach ryw
  Gwna fi fel pren planedig O fy Nuw
  O Basan bell mae'n cyrchu ambell un
  Pob natur doed â'i holl bwerau 'nawr
  Rhyfeddu'r wyf a mawr ryfeddod yw

(The unity of the church)
The church of God is,
    through earth and heaven one,
The dead and the alive,
    with their chorus in agreement;
  "Worthy is the Lamb,"
      say the saints who are in heaven,
  "Worthy is the Lamb,"
      is our own speech and cry.

It is Christ who is our feast,
    our peace, and our justification,
A free, living way,
    to lead us to the presence
          of his Father;
  It is His scent
      which is filling heaven fully,
  Sweetening it is
      very detestable prayers.

His holy life, his sweat,
    and his groans which he gave,
And his full death,
    which pays fully on the cross:
  The fruit of his anguish and the force of
      his strong supplication, shall bring
  The feeble weak
      to be firm with Him.

A Brother is He
    to the burdened on the earth;
I shall come to lean on Him
    up from the great tribulation:
  Not one toe-nail shall delay,
    although so weak,
  From the desert land
      they are to be obtained soon.

From distant Bashan
    he is fetching one by one
Back to his house,
    The beautiful family, united:
  From the depth of the sea
      yet more shall come free,
  The gentle Shepherd
      shall lead them to the light of day.

I wonder, and
    a great wonder it is,
That I am ever loved,
    the worst of humankind,
  To get in thy house,
      within its walls, a place,
  And a name better than is to be seen
      under heaven.

Let mention fade away,
    of every contention henceforth,
Party judgement,
    and prejudice down with them;
  May a spirit of peace,
      tranquility come in their place,
  And pure love,
      from the love which is in heaven.

Make me like a tree
    planted, O my God,
Freshly by the side,
    of rivers of living water;
  Rooting widely, and its
      leaves never more withering,
  Bearing fruit under
      showers of a heavenly wound.

Messengers of peace,
    in evangelistic language,
Which call to the feast,
    across the sea vast India;
  Hotentots, Coronians
      of blackest colour,
  A barbarian host, may get
      brought to the family of God.

Let the family of heaven come,
    on a sea of clear glass,
Who stand before him
    in pure garments;
  Let the children of the earth and
      the children of Paradise above come
  To give together the praise
      to dear Jesus.
tr. 2009,24 Richard B Gillion
 
 





















































Let brethren cease
    of party names to speak -
Of party strife -
    have vanished "Jew and Greek:"
  Sweet Peace appear,
      and Love thy seat maintain,
  That holy Love,
      which chief in heaven doth reign.
tr. 1854 Joseph Morris

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~